Pan adnabyddwyf iaith y wlad,
A phêr ganiadau tŷ fy Nhad,
Dechreuaf gân am farwol glwy'
Na chlywir diwedd arni mwy.
Enyned tân o gariad cu,
Mewn cydsain â'r angylaidd lu -
Na byddo'm swydd ond hyfryd sôn
Am nefol rinwedd
gwaed yr Oen.
Pan gaffwyf wel'd ei nefol wedd,
A phrofi blâs ei ddwfol hedd,
Ni bydd gogoniant pena'r byd,
Ond peth annheilwng o fy mryd.
William Williams 1717-91
Tôn [MH 8888]: Duke Street (J C Hatton 1710-93) gwelir: Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn Mae f'enaid gwan yr awr am ddod Wrth edrych Iesu ar dy groes |
When I know the language of the land,
And the pure songs of my Father's house,
I shall begin a song about a mortal wound,
The end of which shall nevermore be heard.
Let a fire of dear love be kindled,
In harmony with the angelic host -
May my work be only delightfully to tell
Of the heavenly merit of
the blood of the Lamb.
When I get to see his heavenly countenance,
And experience a taste of his divine peace,
The chief glory of the world shall only
Be a thing unworthy of my attention.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|